{SITE-NAME} Logo

Message Type Icon Heddlu De Cymru

Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni - Llanharan/Bryncae

Dywedoch Chi, Gwnaethom Ni - Llanharan/Bryncae

Yn dilyn adroddiadau lluosog am gerbydau oddi ar y ffordd a beiciau trydan yn cael eu gyrru mewn modd anghymdeithasol, mae Tîm Plismona Cymdogaeth 1 Taf wedi atafaelu beic trydan Surron yn ardal Bryncae, yn cael ei yrru ger y glo brig a chylchfan Bryncae. Defnyddir y beiciau hyn yn aml mewn modd anghymdeithasol mewn mannau cyhoeddus, ac maent yn aml yn gysylltiedig â chyflawni troseddau ac achosi niwsans i'n cymunedau.

Rydym yn ymwybodol o'ch pryderon a'r problemau parhaus yn yr ardal, ac rydym am eich sicrhau y byddwn yn cymryd camau cyflym a chadarnhaol lle bo modd i fynd i'r afael â materion fel hyn fel y gallwn gadw ein cymunedau'n ddiogel.


Reply to this message
Neges a Anfonwyd Gan
Tîm plismona cymdogaeth Dyffryn Taf / Taff Neighbourhood Policing Team
Neighbourhood Alert